aelwyd yr ynys
Croeso i wefan Aelwyd yr Ynys. Ail-sefydlwyd Aelwyd yr Ynys cyn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Môn, 2004. Ar ôl yr holl lwyddiant a'r hwyl gafwyd yn paratoi a chystadlu yn yr Eisteddfod honno, penderfynodd yr aelodau ar y pryd i barhau gyda'r Aelwyd a braf yw cael dweud fod yr Aelwyd yn mynd o nerth i nerth, gyda dros hanner cant o aelodau bellach!
Arweinydd y côr ydi Nia Efans a'r cyfeilydd ers Medi 2006 ydi Aled Hopton. Ers 2004, rydym wedi bod yn llwyddiannus mewn eisteddfodau lleol ac mewn sawl cystadleuaeth yn Eisteddfodau yr Urdd yng Nghaerdydd a Rhuthun ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Derbyniwyd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Côr Gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol y Faenol, 2005 ac yn Abertawe yn 2006. Llwyddiant diweddaraf yr Aelwyd oedd derbyn y wobr 1af yng nghystadleuaeth Côr Gwerin yn yr Wyl Cerdd Dant yn Rhosllannerchrugog ym mis Tachwedd 2006.
Bu 2006 yn flwyddyn brysur iawn i ni. Diddanwyd cynulleidfaoedd ar hyd a lled Ynys Môn a thu hwnt. Gwahoddwyd y côr i gymryd rhan ar rhaglen Noson Lawen yn ystod yr haf a rhoddodd hyn gyfle i ddau aelod brwd o'r côr i gyfansoddi cân (Ar Hen Aelwyd gan Peredur Glyn ac Owain Llwyd) yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Hefyd, gwahoddwyd côr bechgyn yr Aelwyd i ganu yn fyw ar raglen JK a Joel ar Radio 1! Cynhaliwyd ein cyngerdd blynyddol cyntaf ym mis Medi, a oedd yn llwyddiant ysgubol. Mawr obeithiwn nad hwnnw oedd yr olaf!
i ddod
26 - 31 Mai; Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2007; Sir Gâr
2 - 9 Awst; Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2008; Yr Wyddgrug

